|
|
|
Urdd
Gobaith Cymru |
|
|
|
Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2006 yw Rhys Taylor o Aberystwyth. Cynhaliwyd y gystadleuaeth heno yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, gydag wyth o bobl ifanc Cymru yn cystadlu am yr ysgoloriaeth sy’n werth £4,000. Mae Rhys yn 24 oed ac ef oedd enillydd yr unawd offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ym mis Mai. Llynedd, enillodd Rhys radd dosbarth cyntaf mewn clarinét yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth Manceinion. Mae wedi cyhoeddi CD yn ddiweddar, a'i obaith yw bod yn glarinetydd proffesiynol. Meddai Rhys: "Dyma ddiweddglo perffaith i'm cyfnod o gystadlu gyda'r Urdd. Roedd hi'n bleser cystadlu heno yn erbyn perfformwyr eraill o safon mor uchel. Mae'n anrhydedd cael gwobr dan enw un sydd wedi gwneud cymaint dros y celfyddydau yng Nghymru. Dwi am ddefnyddio'r arian ar gyfer hyfforddiant proffesiynol." Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a’r Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:
Am fwy o fanylion, cysyllter â Siân
Eleri Davies ar 07976 330360 |
|
Cadeirydd:
Rhiannon Lewis Prif Weithredwr: Efa Gruffudd
Jones |